FAQ Cwestiynau Cyffredinol:

Q. Beth yw Event Rater?

A. Gwefan yw Event Rater sy’n casglu gwybodaeth oddi wrth pobl sy’n mynychu digwyddiadau er mwyn darparu adborth ar gyfer rheolwyr lleoliadau a threfnwyr y digwyddiadau. Rydym hefyd yn gallu darparu adroddiadau yn seiliaedig ar yr adborth a gasglwyd i’r lleoliadau a’r trefnwyr digwyddiadau gan gynnwys argymhellion am welliannau posib.

Q. Pam nad yw _________ (Lleoliad/Digwyddiad) ar y wefan?

A. Mae’r wefan Event Rater ar y cam Beta ar hyn o bryd (sy’n ein galluogi ni i brofi’r system) ac yn cynnwys lleoliadau a digwyddiadau penodol. Cofrestrwch a gallwn sicrhau mai chi fydd y cyntaf i glywed am unrhyw lleoliadau neu ddigwyddiadau sy’n cael eu hychwanegu.

Q. Sut ydw i’n gallu awgrymu Lleoliad / Digwyddiad?

A. Gallwch anfon ebost at info@event-rater.com, gan nodi ‘Awgrymiadau’ yn y blwch ‘pwnc ebost’. Gallwn ymchwilio er mwyn mesur y galw am yr awgrym a chysylltu â’r lleoliad / trefnwyr.

Q. Beth yw’r gystadleuaeth ‘Adolygwr Y Mis’?

  1. Bydd yr adolygiad a gaiff ei feirniadu’r gorau yn ennill taleb £25 i’w wario ar Adloniant Byw. Caiff yr ennillydd ei gyhoeddi ar y cyntaf o bob mis. Gweler y Termau a’r Amodau

Q. Ydy’n costio i gofrestru ar Event Rater?

A. Na! ‘Does dim cost i chi gofrestru.

Q. Dwi ddim yn gallu darparu adborth ar y pwnc/meini prawf yma __________ o’r lleoliad / digwyddiad. Beth ddylwn i ei wneud?

A. Peidiwch becso! Dewisiwch ‘n/a’.

Q. Pam nad yw fy adborth yn cael ei arddangos ar y wefan?

A. Caiff yr adborth byddwch chi’n ei ddarparu ei rannu gydag Event Rater, rheolwyr y lleoliad a threfnwyr y digwyddiad yn unig ac nid yw’n bosib i’r cyhoedd weld eich adborth.

Q. Beth sy’n digwydd i’r gwybodaeth personol?

A. Os gwelwch yn dda darllenwch ein Polisi Preifatrwydd

Q. Pam ydych chi angen gwybod _______ wrth i mi gofrestru?

A. Yn bennaf byddwn yn defnyddio’r gwybodaeth i’n helpu gyda’r ymchwil ac er mwyn gwneud y gwasanaeth yn fwy perthnasol i’ch diddordebau chi. Ac yn ail, os byddwch yn ddigon lwcus i ennill un o’n cystadleuthau bydd angen eich manylion cyswllt arnom er mwyn anfon eich gwobr!

Q. Ydy’r gwasanaeth ar gael mewn unrhyw ieithoedd eraill?

A. Ar hyn o bryd mae yna fersiwn Gymraeg a Saesneg o’r wefan.

Q. Rwy’n cael trafferth i fewngofnodi / wedi anghofio fy nghyfrinair / ebost?

A. Ebostiwch ni ar: technical@event-rater.com a byddwn yn cysylltu ‘nôl cyn gynteg ag sy’n bosib.

Q. Beth os oes problem technegol?

A. Ebostiwch ni ar: technical@event-rater.com a byddwn yn cysylltu nol.

Q. Sut allaf ddod i wybod am swyddi gydag Event Rater?

A. Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn recriwtio. Ond, rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer swyddi yn y dyfodol a gallwn gadw eich manylion ar ein cofrestr. Gobeithiwn gynnig lleoliadau profiad gwaith a chyfleon ‘internships’ ar gyfer graddedigion yn y dyfodol. Ebostiwch: jobs@event-rater.com gan nodi’r math o swydd byddai o ddiddordeb i chi e.e. Marchnata a Gwerthiannau, Ymchwilydd, Arbenigwr Digwyddiadau, Tîm Hyrwyddo a.y.yb. yn y blwch ‘pwnc ebost’ a byddwn yn cysylltu ‘nôl gyda gwybodaeth am swyddi perthnasol wrth iddynt godi.

 

FAQ Cwestiynau Cyffredinol: Lleoliad

Q. Hoffwn restri ein lleoliad ar Event Rater, sut gallwn drefnu hynny?

A. Ebostiwch ni ar: venues@event-rater.com neu Cofrestrwch eich diddordeb yma a byddwn yn cysylltu ‘nôl.

Q. Sut allwn ni ddefnyddio Event Rater?

A. Ebostiwch ni ar: venues@event-rater.com a byddwn yn cysylltu ‘nôl.

Q. Rwy’n cael trafferth i fewngofnodi / wedi anghofio fy nghyfrinair / ebost?

A. Ebostiwch ni ar: venues@event-rater.com a byddwn yn cysylltu ‘nôl.

Q. Ydy’r gwasanaeth ar gael mewn unrhyw ieithoedd eraill?

A. Ar hyn o bryd mae yna fersiwn Gymraeg a Saesneg o’r wefan.

 

FAQ Cwestiynau Cyffredinol: Digwyddiad

Q. Hoffwn restri ein digwyddiad(au) ar Event Rater, sut ydyn ni yn trefnu hyn?

A. Plis ebostiwch ni ar: events@event-rater.com neu Cofrestrwch eich diddordeb yma a byddwn yn cysylltu nol.

Q. Sut allwn ni ddefnyddio Event Rater?

A. Ebostiwch ni ar: events@event-rater.com a byddwn yn cysylltu ‘nôl.

Q. Rwy’n cael trafferth i fewngofnodi / wedi anghofio fy nghyfrinair / ebost?

A. Ebostiwch ni ar: events@event-rater.com a byddwn yn cysylltu ‘nôl.

A. Ar hyn o bryd mae yna fersiwn Gymraeg a Saesneg o’r wefan.

 

FAQ Cwestiynau Cyffredinol: Hysbysebu

Q. Hoffwn hysbysebu ar Event Rater. Sut allaf drefnu hyn?

A. Ebostiwch ni ar: advertising@event-rater.com and a byddwn yn cysylltu ‘nôl.